top y dudalen

Tyddyn Cyfyng
Maes Gwersylla

A small, secluded, pop-up riverside campsite
in Snowdonia

Booking from 2nd August 2026

Mae Gyfyng yn 31 acer o dir glan afon, coetir, caeau agored a chyfrwy mynydd gyda golygfeydd allan i’r môr ac i fyny Cwm Pennant, gyda Moel Hebog a Chrib Nantlle yn ei amgylchynu.

Mae’r ddwy lain wersylla'n gallu derbyn uchafswm o 5 o bobl ac wedi eu codi yn erbyn yr hen glawdd cerrig, mwsoglog ar lan Afon Dwyfor.  

Ar hyd Wal i wersylla.jpeg

Mae gan bob llain babell gloch, lle i godi eich pabell / pebyll eich hun a chegin gysgodol gyda phlât nwy, bwrdd tafarn a phydew tân. Mae cawod a thoiledau compostio ar y safle. Cofiwch ddod â’ch sachau cysgu / dwfe a gobenyddion eich hun!

11A057AB-3563-4320-8B03-93683A85753F.heic

Mae digon i’w wneud ar y maes gwersylla 31 acer ei hun. Gallwch oeri’r corff yn nŵr oer yr afon a mynd am dro ar hyd glan yr afon uwchlaw’r maes gwersylla. Gallwch nofio ym mhyllau tywyll y coed neu ddringo ar gyfrwy Craig Gyfyng a gwylio’r haul yn taflu cysgodion ar draws Cwm Dwyfor ym mlaen Cwm Pennant.

Saddle.jpeg

Y tu allan i’r maes gwersylla ei hun, gallwch gerdded ar hyd llwybr hudolus Cwm Pennant i ganol y mynyddoedd ac i fyny i flaen y cwm, heibio i Safle Treftadaeth Byd y chwareli ac yna ymgolli yn y golygfeydd godidog draw am Ynys Môn a’r Wyddfa.

6A4FDE54-1F60-4E34-9381-DB1EB731A4B0.heic

Ac ar wahân i drysorau Cwm Pennant ei hun, gallwch gerdded, canŵio a mwynhau gweithgareddau awyr agored eraill ar draws mynyddoedd Eryri a thraethau nefolaidd ac amrywiol Pen Llŷn ac Ynys Môn. Mae Harlech a’r Bermo yn eithaf agos hefyd.  

 

Beth am fynd ar weiren wib gyflymaf y byd, ar drip ar drên bach Ffestiniog drwy ysblander ein cefn gwlad, neu ail-ymweld ag atgofion am y gyfres deledu o’r 1970au ym Mhortmeirion.

 

Gallwch brynu trwydded i bysgota ar hyd dyfroedd isaf Afon Dwyfor i geisio dal sewin neu ddau (pan fydd lefel yr afon yn iawn) neu fynd allan i’r môr i chwilio am fecryll neu ddraenogod y môr. Neu wneud dim byd ac ymlacio wrth yr afon, coginio yn y gegin, gorwedd yn yr hamog ac ymgolli yn hud a lledrith byd natur.

F229CF13-EF9E-43A8-BE08-DAEFBC8DC63E.heic

Fyddwch chi’n sicr ddim yn diflasu ar fod yma!

IMG_0186.jpeg

Ein Cyfeiriad

Cyfyng

Cwm Pennant

Gwynedd

LL512 9AX

Cysylltwch â Ni

Dilynwch Ni

  • Instagram
  • Myfyrdod Facebook
  • Myfyrdod Twitter

Rydym yn Derbyn

© 2023 gan moonlight Glamping Wedi'i greu'n falch gyda Wix.co m

gwaelod y dudalen