top y dudalen

Lleiniau gwersylla (5 person ar y mwyaf i bob llain)

Mae’r ddwy lain wersylla mewn cae sy’n terfynu â’r hen glawdd mwsoglog sy’n rhedeg ar hyd Afon Dwyfor. Mae pob llain yn gallu cymryd uchafswm o 5 o bobl ac yn cynnwys pabell gloch, cegin gysgodol gyda phlât nwy, bwrdd tafarn, meinciau a hamog, a phydew tân. Mae gan ein lleiniau wahanol bebyll cloch ac mae croeso i chi hefyd godi eich pebyll eich hun.

11A057AB-3563-4320-8B03-93683A85753F.heic
Heibio pabell cloch wen i gamsite.jpeg

Llain ddiarffordd ar lan yr afon gyda phabell gloch 7 medr – cysgu 5

Afon cae Camp.jpeg

Llain ddiarffordd ar lan yr afon gyda phabell gloch 5 medr – cysgu 2-4. Gallwch godi eich pabell eich hun neu gallwn ddarparu pabell gloch ‘chwythu fyny’ (cysgu 2) i grŵp o 5.

*Lle barbyciw preifat, mainc dafarn, pydew tân a hamog
*TOILEDAU COMPOSTIO
* Cawod drydan (yn y ffermdy)
* Coed tân a rhew ar gael i’w prynu ar y safle.

Y RHEOLAU A’R ‘PEIDIWCH GWNEUD’

  • Dim cŵn

  • Dim carafanau na faniau gwersylla

  • • Dim miwsig uchel

  • • Dim ceir yn y maes gwersylla – mae gan bob llain drol i gario bagiau a choed tân ac ati.

  • • Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion a’r ardaloedd ‘dim mynediad’ o gwmpas y safle.

  • • Gofynnwn i chi barchu’r afon BOB AMSER – dyma’r unig ddŵr i ni (a chi) ac mae’n gartref i fywyd gwyllt gwerthfawr.  

  • • Defnyddiwch y toiledau compostio ym mhen ucha’r cae BOB TRO.  

  • • PEIDIWCH byth â mynd i’r afon gydag eli haul ar eich croen.

DIOLCH YN FAWR!

Ein Cyfeiriad

Cyfyng

Cwm Pennant

Gwynedd

LL512 9AX

Cysylltwch â Ni

Dilynwch Ni

  • Instagram
  • Myfyrdod Facebook
  • Myfyrdod Twitter

Rydym yn Derbyn

© 2023 gan moonlight Glamping Wedi'i greu'n falch gyda Wix.co m

gwaelod y dudalen